Astudiodd Euros Lyn drama ym Mhrifysgol Manceinion cyn cyfarwyddo rhaglenni gan gynnwys Pam Fi Duw?,Iechyd Da ac Y Glas. Ennillodd Ysgoloriaeth Goffa Ymddiriedolaeth Saunders Lewis yn 1999 i dreulio cyfnod yn Nenmarc yn astudio'r diwydiant ffilm yno. Bu'n gyfarwyddwr cyson ar Doctor Who, gan ennill gwobr Hugo am y bennod The Girl In The Fireplace. Fe gyfarwyddodd Fifteen Million Merits yng nghyfres gyntafBlack Mirror â ennillodd Emmy Rhyngwladol am y gyfres ddrama orau. Fe gyfarwyddodd ffilm wedi ei hysbrydoli gan nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, cas ei rhyddhau mewn sinemau yn Awst 2016 a'n fwy diweddar bu'n cyfarwyddo Dream Horse, gyda Toni Collette, Damian Lewis ac Owen Teale i Film4/Warner Bros/Bleecker Street cas ei lawnsio yng ngwyl Ffilm Sundance yn 2020 â'i dosbarthwyd ar draws y byd. Mae e wedi cyfarwyddo ac uwch-gynhyrchu y gyfres gyfan o Heartstopper i Netflix/SeeSaw ac mae wrthi'n datblygu ffilm o nofel ddychanol Matt Haig, The Radleys.